Celebrating our Trustees in ScoutsCymru / Dathlu ein Hymddiriedolwyr yn ScoutsCymru

22nd November 2016

ScoutsCymru is celebrating the work of Trustees as part of the national week long campaign to promote the benefits of volunteering, organised by the Charity Commission for England and Wales.

Two new Trustees have just been elected to the Board and three Trustees are stepping down as they have completed their three year tenure.

The three who retired after completing their tenure are Gareth Sandilands and Hugh Anton Stephens who both who served six years, and Margaret Morris who served for one year.

The following people were recently elected onto the Board: Dominic Winfield was appointed as Treasurer; Leah Sier and Stephen Champion were both elected as Young Trustees; Chris Hollis was re-elected for Mid and West Wales and joined by newly elected Adrian Austin; and another new trustee, Edward Watts, was elected for South Wales. Jake Myatt from North Wales, previously a Young Trustee, was appointed as a Trustee and chair of the Finance and Resource Committee. 

The Board of Trustees in ScoutsCymru is made up of a mixture of elected, appointed and co-opted positions that include representatives from each region of Wales, young people as well as the roles of secretary, treasurer and chair.

Chair of the Board David Chapman said: “Scouting in Wales depends on people giving up their time to make sure young people in Wales have the opportunity to join the fun and adventure with their local scout group.

“I would like to thank the Trustees whose term of office has just ended, and to welcome those who have been elected or appointed to the Board at the AGM this year. The Board has worked hard to improve the Governance of ScoutsCymru to ensure that we are able to support the Chief Commissioner, his team and the ScoutsCymru staff, so that together we can deliver our 2014-2018 Strategic Plan across Wales. There is still plenty of work to do to meet the challenges ahead, but I am confident that we can achieve our aims with effective teamwork, and still have some fun on the way!”

If you would like to get involved and join your local executive team please email

admin@scoutscymru.org.uk.

Meet some of our Trustees

Young Trustee, Leah Sier

Leah had been the Area Youth Commissioner for Ceredigion for about 8 months. She had also volunteered as an Assistant Beaver Scout Leader with 2nd New Quay & Llanarth Scout group for a year and was a young leader for four years before that. Now living in Cardiff she is an Assistant Beaver Leader with a group in Cardiff while studying Geology at Cardiff University.

When asked about being a Trustee Leah said: "Our roles help ensure that Scouting in Wales is meeting its objectives and targets. We review our progress and ensure Scouting is making a positive impact.

"I wanted to be a Trustee as I was interested in being involved with Scouting at a national level, and to really understand what goes on.  I also wanted to be a voice for young people across the country to ensure decisions made are in the interests of them.

"I have met some fantastic people through becoming a trustee and have learned many things about the running of ScoutsCymru and how important our roles are. It has given me a sense of responsibility and achievement through being involved.

"Trustees are vital volunteers for the charity so it's so important that more people, and young people in particular get involved and actually have a positive impact on Scouting in Wales. Scouting is a growing movement so needs enthusiastic volunteers to help shape the future for young people."

Nicola Gamlen

Nicola owns a camping and outdoor clothing retail business in North Wales which she runs and manages with her partner.

Speaking about her role Nicola said: "I’ve been a Cub Scout leader for around 20 years now, as well as spells as a Venture Scout leader and as an Assistant Area Commissioner for Cub Scouts.

"I started as a trustee when I was around 22 when a space was available on my Area Executive. This progressed a couple of years later to becoming a trustee for the Welsh Scout Council (as it was known then!) for around 10 years. Just over a year ago I became a trustee for The Scout Association and as well as being a part of the Board I also work on the Finance Committee.

"I first got involved as a trustee because I wanted to see how everything worked behind the scenes. I think at the time I wanted some financial support for a local project but was told that the Area didn’t do that sort of thing. I guess I felt that if I got involved then I could change that from within, by being part of the Area executive I could help them change their policy to support local scouting better.

"Being a trustee has no doubt improved my communication skills and confidence to speak in public. You must be prepared to speak up in a debate to make your opinion heard but equally have an open mind to consider other people’s views. Alongside this I’ve learnt a lot about accounts, managing budgets, strategy planning, charity law, health and safety, the list is huge! All of which have given me the confidence and knowledge to start a business of my own.

"I think many people think that being a trustee is just about looking after the finances, but there is so much more involved. Of course, we are responsible for ensuring the charity has enough money and resources but we must also ensure that the charity is focussing on the right ways to use those resources. This comes down to setting the right strategy, ensuring we are supporting our staff and volunteers to be able to do their jobs and engaging with our local members to identify their needs.

"It’s also important we work alongside other charities and bodies to ensure our voice is heard on topics that can affect the charity, such as the development of new grant schemes, changes in government policies and the drafting of new laws."

Dominic Winfield

Dom Winfield is an accountant and tax advisor and has just been appointed as the Treasurer to the Board, he was previously Treasurer with Cardiff and the Vale Executive Board. He is also the Musical Director for the Cardiff Gang Show

In his role Dom oversees the finances of ScoutsCymru and attends about six trustee meetings a year, but spends a few hours a week doing 'treasuring'.

When asked why he wanted to be a trustee Dom, said: "To use my skill set to support Scouting without the fixed weekly commitment that being a leader requires. Being a trustee is great example of flexible volunteering.

"I get great satisfaction knowing that I'm using my own particular skill set for the benefit of the young people. Trustees are often the 'forgotten' role in Scouting, but are an essential part of Scouting, and when attending events seeing the smiles on the faces of the young people makes it all worthwhile."

***************************************************

Mae ScoutsCymru yn dathlu gwaith yr Ymddiriedolwyr fel rhan o ymgyrch genedlaethol wythnos o hyd i hyrwyddo buddion gwirfoddoli, wedi'i threfnu gan Gomisiwn Elusennau Lloegr a Chymru.

Mae dau Ymddiriedolwr newydd wedi'u hethol i'r Bwrdd ac mae tri Ymddiriedolwr yn camu i lawr gan eu bod wedi cwblhau eu daliadaeth dair blynedd.

Y tri a ymddeolodd ar ôl cwblhau eu daliadaeth yw Gareth Sandilands a Hugh Anton Stephens, ill dau wedi gwasanaethu chwe blynedd, a Margaret Morris a wasanaethai am un flwyddyn.

Ail-etholwyd y canlynol i'r Bwrdd yn ddiweddar: penodwyd Dominic Winfield yn Drysorydd; etholwyd Leah Sier a Stephen Champion fel Ymddiriedolwyr Ifainc;, ail-etholwyd Chris Hollis dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, ac ymunwyd ag ef gan Adrian Austin sydd newydd gael ei ethol, ac etholwyd ymddiriedolwr newydd, Edward Watts, dros Dde Cymru.  Penodwyd Jake Myatt o Ogledd Cymru, gynt yn Ymddiriedolwr Ifanc, yn Ymddiriedolwr a chadeirydd Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau.

Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr ScoutsCymru yn cynnwys cymysgedd o swyddi wedi'u hethol, penodi a'u cyfethol sydd yn cynnwys cynrychiolwyr o bob parth o Gymru, pobl ifanc yn ogystal â swyddi'r ysgrifennydd, trysorydd a'r cadeirydd.

Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd David Chapman: "Mae Sgowtio yng Nghymru yn dibynnu ar bobl yn rhoi eu hamser i sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru yn cael y cyfle i ymuno â'r hwyl a'r antur gyda'u grŵp sgowtiaid lleol.

"Hoffwn i ddiolch i'r Ymddiriedolwyr sydd newydd orffen eu cyfnod yn y swydd, a chroesawu'r rhain sydd wedi cael eu hethol neu eu penodi i'r Bwrdd yn y CCB eleni.  Mae'r Bwrdd wedi gweithio'n galed i wella Trefn Lywodraethol ScoutsCymru er mwyn sicrhau y gallwn ni gefnogi'r Prif Gomisiynydd, ei dîm a staff ScoutsCymru fel y gallwn gyflawni gyda'n gilydd ein Cynllun Strategol 2014-2018 ar draws Gymru.  Mae dal digon o waith i'w wneud i gwrdd â'r heriau sydd o'n blaenau, ond rwy'n hyderus y gallwn ni gyflawni ein nodau gyda gwaith tîm effeithiol, ac yn dal i gael ychydig o hwyl ar y ffordd!"

Os hoffwch chi gymryd rhan ac ymuno â'ch tîmgweithredol lleol ebostiwch admin@scoutscymru.org.uk

Dyma rai o'n Hymddiriedolwyr

Ymddiriedolwr Ifanc, Leah Sier

Bu Leah yn Gomisiynydd Ieuenctid Rhanbarth Ceredigion am dua wyth mis.  Bu hefyd yn gwirfoddoli fel Arweinydd Afancod Cynorthwyol gyda grŵp Sgowtiaid 2ail Cei Newydd a Llanarth, a bu hi'n arweinydd ifanc am bedair blynedd cyn hynny.  Yn byw nawr yng Nghaerdydd mae hi'n Arweinydd Afancod Cynorthwyol gyda grŵp yng Nghaerdydd wrth astudio Daeareg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Wedi ei gofyn am fod yn Ymddiriedolwr, dywedodd Leah: "Mae ein rolau yn helpu sicrhau bod Sgowtio yng Nghymru yn cwrdd â'i amcanion a'i dargedau.  Rydyn ni'n adolygu'n cynnydd a sicrhau bod Sgowtio yn cael effaith gadarnhaol.

"Roeddwn i eisiau bod yn Ymddiriedolwr achos bod gen i ddiddordeb mewn bod yn rhan o Sgowtio ar lefel genedlaethol, ac i wir ddeall beth sy'n digwydd.  Hefyd roeddwn i eisiau bod yn llais i bobl ifanc ar draws y wlad i sicrhau bod penderfyniadau a wnaed er eu lles nhw.

"Dw i wedi cwrdd â rhai pobl fendigedig drwy ddod yn ymddiriedolwr ac wedi dysgu llawer o bethau am sut mae ScoutsCymru yn cael ei redeg a pha mor bwysig yw ein rolau ni.  Mae wedi rhoi i mi ymdeimlad o gyfrifoldeb a chyflawniad drwy gymryd rhan.

"Gwirfoddolwyr hanfodol i'r elusen yw'r Ymddiriedolwyr felly mae'n bwysig bod mwy o bobl, a phobl ifanc yn enwedig yn cymryd rhan a gwir gael effaith gadarnhaol ar Sgowtio yng Nghymru.  Mae Sgowtio yn fudiad sy'n tyfu felly mae angen gwirfoddolwyr brwdfrydig i helpu i lunio'r dyfodol i bobl ifanc."

Nicola Gamlen

Mae Nicola yn berchen ar fusnes manwerthu dillad awyr agored a gwersylla yng Ngogledd Cymru y mae'n rhedeg ac yn rheoli gyda'i phartner.

Yn siarad am ei rôl dywedodd Nicola: "Dw i'n Arweinydd Cybiau ers dros 20 mlynedd erbyn hyn, yn ogystal â chyfnodau fel Arweinydd Sgowtiaid Mentro ac fel Comisiynydd Rhanbarth Cynorthwyol i'r Cybiau.

"Dechreuais fel ymddiriedolwr pan oeddwn tua 22 pan oedd lle ar gael ar Bwyllgor Gwaith fy Rhanbarth.  Arweiniodd hwn ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach at ddod yn ymddiriedolwr Cyngor Sgowtiaid Cymru (fel yr adnabyddir bryd hynny!) am dua 10 mlynedd.  Ychydig dros flwyddyn yn ôl des i'n Ymddiriedolwr Mudiad y Sgowtiaid ac yn ogystal â bod yn rhan o'r Bwrdd dw i hefyd yn gweithio ar y Pwyllgor Cyllid.

" Des i yn ymddiriedolwr yn gyntaf achos roeddwn i eisiau gweld sut oedd popeth yn gweithio y tu ôl i'r llenni.  Rwy'n credu ar y pryd roeddwn i eisiau rhywfaint o gymorth ariannol ar gyfer prosiect lleol, ond dywedwyd wrtho i nad oedd y Rhanbarth yn gwneud y math yna o beth.  Mwy na thebyg roeddwn i'n teimlo petaswn i'n cymryd rhan yna y gallwn i newid hynny o'r tu fewn, wrth fod yn rhan o Bwyllgor Gwaith y Rhanbarth gallwn eu helpu i newid eu polisi i gefnogi sgowtio lleol yn well.

Mae bod yn ymddiriedolwr yn ddiau wedi gwella fy sgiliau cyfathrebu a'm hyder i siarad yn gyhoeddus.  Rhaid i chi fod yn barod i siarad mewn dadl a lleisio'ch barn, ond yn ogystal bod â meddwl agored i ystyried barn pobl eraill.  Hefyd dw i wedi dysgu llawer am gyfrifon, rheoli cyllidebau, cynllunio strategol, cyfraith elusennol, iechyd a diogelwch – mae'r rhestr yn enfawr!  Mae pob un ohonynt wedi rhoi'r hyder a'r wybodaeth i mi ddechrau busnes fy hun.

"Rwy'n credu bod llawer o bobl yn meddwl mai dim ond edrych ar ôl cyllid yw bod yn ymddiriedolwr, ond mae cymaint mwy.  Wrth gwrs, rydyn ni'n gyfrifol am sicrhau bod gan yr elusen ddigon o arian ac adnoddau ond hefyd mae rhaid i ni sicrhau bod yr elusen yn canolbwyntio ar y ffyrdd cywir o ddefnyddio'r adnoddau hynny.  Mae hyn yn dod i lawr i osod y strategaeth gywir, sicrhau ein bod yn cefnogi ein staff a'n gwirfoddolwyr i allu gwneud eu swyddi ac ymgysylltu â'n haelodau lleol i nodi eu hanghenion.

"Mae hefyd yn bwysig i ni weithio ochr yn ochr ag elusennau a sefydliadau eraill er mwyn sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed ar bynciau a all effeithio ar yr elusen, megis datblygiad cynlluniau grantiau newydd, newidiadau ym mholisïau'r llywodraeth a drafftio cyfreithiau newydd."

Dominic Winfield

Cyfrifydd ac ymgynghorydd treth yw Dom Whitfield ac mae newydd gael ei benodi'n Drysorydd i'r Bwrdd, a bu'n Drysorydd gyda Bwrdd Gweithredol Caerdydd a'r Fro gynt.  Hefyd mae'n Gyfarwyddwr Cerdd i Gang Show Caerdydd.

Yn ei rôl, mae Dom yn goruchwylio cyllid ScoutsCymru ac yn mynychu tua chwe chyfarfod ymddiriedolwyr y flwyddyn, ond mae'n treulio ychydig o oriau'r wythnos yn gwneud gwaith y trysorydd.

Wedi ei ofyn pam roedd e eisiau bod yn ymddiriedolwr, dywedodd Dom: "Er mwyn defnyddio fy set sgiliau i gefnogi Sgowtio heb yr ymrwymiad wythnosol y mae ei angen i fod yn arweinydd.  Mae bod yn ymddiriedolwr yn enghraifft dda o wirfoddoli hyblyg.

"Rwy'n cael boddhad mawr o wybod fy mod i'n defnyddio fy set sgiliau penodol fy hun er budd y bobl ifanc.  Yn aml ymddiriedolwyr yw'r rôl 'angof' o fewn Sgowtio, ond maen nhw'n rhan hanfodol o Sgowtio, ac wrth fynychu digwyddiadau mae gweld y gwenau ar wynebau pobl ifanc yn gwneud y cyfan yn werth chweil."